EmilyJONESJONES - Dymuna Emily, Mary a Grace ddiolch i bawb am y caredigrwydd a'r gefnogaeth a gafwyd yn ystod y tri mis tra fu ei diweddar fam Ellen (Nellie) Jones o "Crud yr Awel", 16 Cil y Graig, Dwyran yn yr ysbyty, ac am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd atynt yn eu profedigaeth yn ddiweddarach. Diolch am y rhoddion hael o £1150 tuag at Ward Peblig, Ysbyty Eryri er cof amdani, ac am y gofal eithriadol a dderbyniodd yno. Diolch o galon hefyd i'r Parchedig Harri Owain Jones am ei gynhaliaeth cyson a'i wasanaeth diffuant ddiwrnod yr angladd, cyfraniad arbennig Mrs Hefina Lloyd Williams yr organyddes, cymorth parod Gwen Jones, Rhiannon Mercer, Ellen P. Williams a Morfudd Williams gyda'r lluniaeth, a threfniadau gofalus a thrylwyr teulu Rose & Thistle, Brynsiencyn, yr Ymgymerwyr. Bu'r cyfan yn gymorth ac yn gysur mawr.
Keep me informed of updates