KatieJONESJONES - KATIE MAY. Ebrill 8, 2008 yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor o Flat 40, Ffordd Llanbeblig, Caernarfon yn 83 mlwydd oed. Chwaer annwyl Meg, Jennie ac Eileen a modryb hoff ei nithoedd a'i neiaint. Angladd dydd Sadwrn Ebrill 12. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Ebeneser, Caernarfon am 10-30 o'r gloch ac i ddilyn ym mynwent Eglwys Llanrug. Blodau'r teulu agosaf yn unig ond os dymunir derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Gapel Ebeneser ac Ambiwlans Awyr Cymru. Ymholiadau E. W. Pritchard, 62, Stryd Fawr, Llanberis. 01286 870202.
Keep me informed of updates