EdithJONESJONES - Dymuna Edith a teulu y diweddar Mr. IDRIS JONES, Gwelfryn, Gaerwen Uchaf, Gaerwen ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth ddiweddar. Diolch am y llu cardiau, galwadau ffon a phob ymweliad. Diolch i'r Parchedig Idris Jones am ei wasanaeth ddiwrnod yr angladd. Gwerthfawrogir y rhoddion hael er cof a dderbyniwyd tuag at Ymchwil y Galon a diolch hefyd i'r Ymgymerwyr R. Hughes a'i Fab, Llangefni am eu trefniadau.
Keep me informed of updates