Elizabeth LloydJONESJONES - ELIZABETH LLOYD. 19 Mawrth, 2015. Yn dawel yng nghwmni ei theulu, yn dilyn gwaeledd byr, yn ei chartref 26 Maes Castell, Llanllyfni, yn 70 mlwydd oed. Priod addfwyn a ffyddlon John Gwynfor, a mam unigryw Gwynfor, Heulwen, Hugh a John. Nain a hen-nain arbennig ei wyrion a'i wyresau a chwaer annwyl John, Wil, Arfon a Pamela a'u teuluoedd estynedig. Angladd brynhawn Iau 26 Mawrth, 2015. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni am 2.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Gorffwysfa. Blodau'r teulu agos yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdani i'w rhannu rhwng Nyrsus Cymunedol Pen-y-groes a Hosbis yn y Cartref. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Elizabeth