AliceJONESJONES - Dymuna Alice a Margaret a theulu'r diweddar Mrs Jane Elizabeth Jones (gynt o 15 Hafan Elan, Llanrug) ddiolch i bawb am yr holl garedigrwydd a phob cydymdeimlad a dderbyniwyd ganddynt yn eu profedigaeth o golli Mam a Nain annwyl iawn. Diolch i Ddoctoriaid Llanberis; staff Ysbyty Eryri; Cartref Penisarwaun; a staff Ward Ogwen, Ysbyty Gwynedd am eu gofal arbennig. Diolch i'r Parch John Pritchard am ei gyfraniad didwyll yn y gwasanaeth. Diolch i Gwynfor Jones, E. W. Pritchard am ei wasanaeth effeithiol a phroffesiynol. Diolch am y cardiau, galwadau ffon a'r rhoddion i Ward Ogwen. Diolch i Cerid McKinnon am baratoi'r lluniaeth yng Nghapel y Rhos.
Keep me informed of updates