Sharon WynJONESJONES - SHARON WYN. Mai 4ydd 2016, yn dawel wedi brwydr ddewr yn Ysbyty Gwynedd ac o Liverpool House, Stryd Penlan, Pwllheli yn 46 mlwydd oed. Mam addfwyn Mari Lois, partner arbennig Emyr a ffrind ardderchog i'r hogia, merch Glanville a'r ddiweddar Meirwen Elias (Chwilog), llys-ferch Eleanor, chwaer, chwaer-yng-nghyfraith, modryb a chyfneither y teimlir ei cholli gan deulu a ffrindiau. Angladd ddydd Gwener, Mai 13eg. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Brynaerau M.C. Pontllyfni (LL54 5EP) am 11.00 y bore ac i ddilyn yn gyhoeddus ym mynwent y Capel. (Gwisg liwgar yn dderbynniol ddydd yr angladd) Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof am Sharon at Uned Gofal Dwys Ward Cybi, Ysbyty Gwynedd naill ai ar y plat offrwm yn y Capel neu drwy law yr Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon. LL54 5ER. Ffon 01286 660365.
Keep me informed of updates