MargaretJONESJONES - MARGARET MAY. Mehefin 8fed 2008, yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn 80 mlwydd oed o Derlwyn, Gellilydan a gynt o Cydnerth, Gellilydan. Priod annwyl a ffyddlon Aneirin a mam ofalus Bet a Twm, Eileen a Gareth a Dylan. Nain a hen nain arbennig Einir, Sara, Elgan, Carwyn a Mari bach. Chwaer annwyl Elfed. Cynhelir gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Maentwrog Uchaf dydd Sadwrn, Mehefin 14 am 11.00 o'r gloch ac yna i ddilyn ym Mynwent Maentwrog. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Mencap drwy law'r Ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf, Stryd Dulyn, Tremadog 01766 512091.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret