EvanJONESJONES - EVAN (Evan Foel). Mehefin 7fed, 2008, yn dawel yn Ysbyty Gwynedd ac o Blas Gwilym, Penygroes (Foel Ganol, Pontllyfni gynt) yn 87 mlwydd oed. Priod ffyddlon y ddiweddar Mary Jones, tad caredig Elizabeth, Gwyneth, Ieuan, Marian a'r diweddar Emrys, tad yng nghyfraith Billy a Hywel, taid hoffus Sharon, Emlyn, Iwan, Richard, Emrys, Debbie ac Ifan a hen daid Rebecca, Manon, Sophie ac Elin. Angladd dydd Iau, Mehefin 12fed. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Brynaerau M.C. Pontllyfni am 2.00 o'r gloch ac i ddilyn yn gyhoeddus ym mynwent y Capel. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof am Evan Jones at Gronfa Mwynderau Trigolion Plas Gwilym naill ai ar y plat offrwm yn y Capel neu drwy law yr ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon: 01286 660365.
Keep me informed of updates