MargaretJONESJONES - MARGARET JANE Gorffennaf 17, 2008. Yn dawel yn Ysbyty Llandudno yng ngofal tyner ei theulu, o Bryn Gwenddar, Henryd, Conwy, yn 80 mlwydd oed. Priod ffyddlon a gofalus William Henry, mam a mam yng nghyfraith annwyl iawn i Winnie ac Alun, Lloyd ac Ann, nain gariadus a charedig i Rhun a Tomos. Bydd chwithdod o'i cholli gan ei theulu a'i frindiau. Angladd cyhoeddus dydd Gwener, Gorffennaf 25. Gwasanaeth yng Nghapel Tabernacl, Llechwedd, Conwy am 2 o'r gloch ac i ddilyn ym Mynwent y Capel. Blodau gan y teulu yn unig, derbynnir rhoddion os dymunir, er cof annwyl tuag at Capel Tabernacl a Hosbis Dewi Sant drwy law D. Gwynfor Griffiths, Trefnydd Angladdau, Golygfa'r Dyffryn, Trefriw, Llanrwst. 01492 640722.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret