HannahJONES(Tawel Lan, Llanberis). Dymuna Dewi, Gwerfyl, Peter a Ieuan ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli modryb annwyl iawn. Diolch i Gartref Plas Pengwaith, Llanberis am eu gofal a charedigrwydd, hefyd i'r doctoriaid a staff Ward Moelwyn, Ysbyty Gwynedd. Diolch i'r Parchedig John Pritchard am wasanaeth arbennig a theimladwy a Mrs Bethan Holding am chwarae yr organ. Hefyd am y rhoddion tuag at Hosbis Dewi Sant, Llandudno ac i E W Pritchard yr ymgymerwyr am y trefniadau gofalus ac i Westy Padarn am y lluniaeth.
Keep me informed of updates