CeinwenJONESDymuna teulu Ceinwen, gynt o Arlwyn, Ffordd Llwyndu, Pen-y-groes estyn eu diolch cywiraf i bawb am y cydymdeimlad a amlygwyd iddynt yn dilyn y brofedigaeth ddiweddar o golli chwaer a modryb hoff. Diolchir i Dr John Morris Jones a Dr Mahimairaj Britto am eu caredigrwydd tuag ati dros y blynyddoedd, ac yn arbennig iawn i staff Cartref Plas Gwilym am y cyfeillgarwch, y parch a'r gofal neilltuol a roddasant iddi yn ystod ei misoedd olaf, ac am gynnal ei hurddas i'r diwedd. Roedd hyn yn ffynhonnell cysur i'r teulu oll.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Ceinwen