Thomas John (Tom)JONESDymuna Alwyn, Glyn a theulu y diweddar Tom Jones, 65 Trem Eryri, Llanfairpwll ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a fynegwyd iddynt yn dilyn eu profedigaeth. Diolch i bawb a fynychodd ei angladd ac a gyfrannodd mor hael i'r gronfa er cof amdano - sef 2,228. 80 er budd Cartref Plas Mona, Llanfairpwll ac Uned Arennol Ysbyty Gwynedd. Mawr ddiolch i'r Parchedigion Geraint Roberts, Gerallt Lloyd Evans, Jim Clarke a Hywel M Davies am eu gwasanaeth, ac i'r organyddes Mrs. Mair Carrington Roberts. Diolch arbennig i Gwenan a Morfudd o gwmni W.O. & M Williams, Rose & Thistle am eu trefniadau gofalus. Diolch o galon.
Keep me informed of updates