CarysJONESDymuna Gwyneth, Gareth Bryn a'r teulu Gwynfaes, Cricieth, ddiolch o waelod calon am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth lem o golli Carys bach. Mi fu pob ymweliad, cerdyn a galwad ffôn yn gysur mawr i ni ar yr adeg trist yma. Diolch i bawb yn Cerrig yr Afon am y gofal gafodd Carys yno, hefyd i Ganolfan y Gwystl ac i bawb ymhobman am y blynyddoedd o wasanaeth gafodd Carys. Ein diolch hefyd i'r Parchedigion R.E. Hughes, Pryderi Ll. Jones ac Iwan Ll. Jones am eu gwasanaeth ar ddydd yr angladd ac i Bryn Jones am ei wasanaeth wrth yr organ. I Bryn a Rhodri (Henry Jones Cyf) am y trefniadau trylwyr a gofalus. Gwerthfawrogir y rhoddion hael o £1000.00 er cof am Carys tuag at Mencap Pwllheli a'r Cylch.
Keep me informed of updates