VioletJONESDymuna Gwenda a'r teulu ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu colled drist o golli mam annwyl a modryb a chwaer-yng-nghyfraith hoff. Diolch i'r Parchedig Gwenda Richards am ei gwasanaeth teimladwy, i Mrs Glesni Jones yr organyddes ac i aelodau Capel Bwlan. Diolch i'r Stablau, Llanwnda am y lluniaeth a ddarparwyd, ac i'r ymgymerwyr Roberts & Owen, Pen-y-groes am eu trefniadau trylwyr. Yn olaf diolch i'r rhai a gyfrannodd yn hael (£550) tuag at Ward Padarn, Ysbyty Eryri, er cof am Violet. Diolch yn fawr.
Keep me informed of updates