DorothyJONESDymuna Huw a Deiniol ddiolch o galon am bob arwydd o garedigrwydd a chydymdeimlad a amlygwyd iddynt yn eu profedigaeth o golli Mam a Nain annwyl ac arbennig. Diolch yn fawr i'r Parchedig Ddr Andras Iago am ei wasanaeth, a'r Parchedigion Graham Floyd ac Ifor ap Gwilym am eu cymorth; hefyd i swyddogion ac aelodau Capel Trefnant am eu gofal tyner dros y blynyddoedd diwethaf. Diolch yn arbennig i Gartref Yr Hen Ddeondy, Llanelwy am eu gofal dwys ac i staff Ysbyty Glan Clwyd. Hefyd i Heulwen a Margaret am y lluniaeth.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Dorothy