GwynforJONESDymuna Eirlys, Sharon, Gary a'u teuluoedd ddiolch o waelod calon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a estynnwyd iddynt yn eu profedigaeth o golli priod, tad a thaid arbennig. Gwerthfawrogwyd yr holl ymweliadau, cardiau a galwadau ffon a dderbyniwyd, maent oll wedi bod yn gysur mawr. Diolch i bawb a ddaeth i Amlosgfa Llanelwy ac i'r gwasanaeth i ddathlu bywyd Gwynfor yng nghapel Tabernacl, Llanrwst. Diolch i Owain I Davies a Pharchedig Gerwyn Roberts am wasanaeth arbennig a theilwng. Diolch hefyd i Mrs Buddug Jones am ei gwasanaeth wrth yr organ. Derbyniwyd yn ddiolchgar roddion hael o £1096.73 er cof am Gwynfor i'w rhannu rhwng Meddygfa Gwydir Llanrwst a Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd. Diolch i Bopty Pen Uchaf am drefnu lluniaeth yn Glasdir. Llawer o ddiolch hefyd i'r ymgymerwyr Robin Roberts, Meredith Jones am y trefniadau urddasol a phroffesiynol. Eirlys, Sharon, Gary and their families wish to express their heartfelt thanks for all the sympathy and kindness shown to them in their bereavement of losing a special husband, father and grandfather. All the visits, cards and phone calls are very much appreciated, they have all been a great comfort. Thanks to everyone who attended the crematorium and the service to celebrate Gwynfor's life at the Tabernacle Chapel in Llanrwst. Thanks to Owain I Davies and Reverend Gerwyn Roberts for a special service. Thanks also to the organist Mrs Buddug Jones. Donations greatfully received in memory of Gwynfor amounted to £1096.73 and will be shared between Meddygfa Gwydir, Llanrwst and Alaw Ward, Ysbyty Gwynedd. Thanks to Popty Pen Uchaf for the refreshments in Glasdir. Many thanks also to the undertaker Robin Roberts, Meredith Jones for providing a dignified and professional service.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Gwynfor