Catherine MonaJONESDymuna Stanley, Marian, Aled, Gwen ac Ioan ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli gwraig, mam, mam yng nghyfraith a nain annwyl iawn. Gwerthfawrogir y cyfraniadau hael er cof tuag at Urdd Cyfeillion Ysbyty Rhuthun. Diolch hefyd i'r Parch Morris P Morris am ei ofal a'i wasanaeth ar ddydd yr angladd, i Hazel Jones am y deyrnged, i Helen Roberts yr organyddes, Mairwenna Mosford a'i chyfeillion am y lluniaeth ac i Deiniol o gwmni R W Roberts a'i Fab am ei drefniadau trylwyr, proffesiynol a hollol urddasol. Gwerthfawrogir y cyfan yn fawr.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Catherine