Catherine AnnJONESDymuna Eryl, Alwynne, Iona a'r teulu i gyd ddiolch yn fawr iawn i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth lem trwy alwadau ffôn, cardiau niferus ac ymweliadau ffrindiau a chymdogion. Diolch arbennig i Dr Esyllt Llwyd, nyrsus yn y gymuned a Bethan a Celia o tim gofal lluniaru yn y cartref. Am eu gwasanaeth parchus a theimladwy yn y capel a'r amlosgfa diolch i'r Parchedigion Gwenda Richards, Gareth Edwards a Robert Parry, ac i'r organyddes Mrs Iola Llywelyn. Diolch am y rhoddion hael o £1300 at Feddygfa Waunfawr. Diolch arbennig i Iolo a'r staff yn Roberts ac Owen, Penygroes am drefniadau teimladwy a phroffesiynol.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Catherine