HaydnJONESDymuna Glenys, Rhandir Mwyn, Waunfawr, Dylan, Alaw ac Eilir ddiolch yn ddiffuant i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad, ac am yr holl garedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt gan deulu, ffrindiau a chymdogion yn eu profedigaeth o golli Haydn. Diolch i'r Parch. Nan Wyn Powell-Davies am wasanaethu'n hynod o arbennig ddydd yr angladd, ac i Norman Williams am y deyrnged ffraeth a haeddiannol. Diolch hefyd i'r cyfeilyddion Gwenda Griffith a Catrin Llewelyn, ac i Dilys Griffith am addurno'r capel mor hyfryd. Diolch arbennig i Dr. Huw Gwilym a staff Meddygfa Waunfawr am eu gofal diflino o Haydn ar hyd y blynyddoedd, ac i Dr. Sally Evans a'r tîm yn Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd, am eu gofal caredig o Haydn yn ystod y flwyddyn anodd yma. Yn olaf, diolch i Iolo a'r staff o Gyfarwyddwyr Angladdau Roberts & Owen, Penygroes am eu trefniadau urddasol, eu cefnogaeth a'u harweiniad. Rhannwyd y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Haydn rhwng y Feddygfa a Ward Alaw. Diolch yn fawr iawn.
Keep me informed of updates