MargaretJONES5 Bro Eglwys, Bethel. Dymuna Sandra, Ella a'r teulu ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a amlygwyd iddynt yn eu profedigaeth. Diolch arbennig i staff Ward Tryfan, Ysbyty Gwynedd, Meddygfa Waunfawr a'r Nyrsys Cymunedol am eu gofal bendigedig a thyner. Diolch i'r Parchedig Marcus Robinson a'r Parchedig Gwenda Richards am eu gwasanaeth, ac i drefnwyr angladdau Roberts & Owen, Pen-y-groes am eu trefniadau trylwyr. Rhannwyd y rhoddion er cof rhwng Ward Tryfan a Tŷ Gobaith yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret