John PeterJONESPETE Yn dawel yn ysbyty Glangwili ar ddydd Mercher, Mawrth 11eg, 2020, hunodd Peter, Castle View, Pencader yn 92 mlwydd oed. Priod cariadus Doreen am 68 o flynyddoedd, tad a thad yng-nghyfraith annwyl Sylvia a Goronwy, tadcu arbennig Rhodri, Rhydian a'i briod Angharad, a hen dadcu balch Mabli. Cynhelir angladd breifat, yn ôl ei ddymuniad, dydd Mawrth, 17eg Mawrth am 11.00 y bore yng Nghapel Gorffwys Henllys, Pencader ac i ddilyn ym mynwent y plwyf Pencader. Blodau'r teulu'n unig. Ymholiadau i'r trefnwr angladdau Tom Lewis, Aneddle, Pencader. 01559 384279.
Keep me informed of updates