GarethJONESJONES - GARETH, . Medi 30ain 2020 yn dawel yn ei gartref Garwen, 24 Gorseddfa, Criccieth, yn enedigol o Llanrug, yn 85 mlwydd oed. Priod annwyl Rhydwen; tad caredig Anna a Sian; taid cariadus Matthew, Scott, Ewan ac Ellie. Gwasanaeth preifat yn Amlosgfa Bangor oherwydd y cyfyngiadau presennol am 2-15 o'r gloch dydd Gwener Hydref 9fed. Bydd yr hers yn cychwyn o Gorseddfa am 1-00 o'r gloch a byddai o gysur i'r teulu pe dymunai cyfeillion a chymdogion ymgynull i dalu'r gymwynas olaf iddo. Dim blodau ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Melanoma UK trwy law yr ymgymerwyr Henry Jones Cyf, Rhes Capel, Criccieth (01766) 522854.
Keep me informed of updates