Geraint LloydJONESLLWYN HUDOL, PENRHYNDEUDRAETH Dymuna Meinir, Dafydd, Catherine a'r teulu ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth lem ac annisgwyl o golli Geraint. Bu pob galwad ffôn, cardiau, llythyrau ac ymweliadau o gysur mawr iddynt. Diolch am y rhoddion hael i Dŷ Gobaith er cof am Geraint. Diolch i nyrsus y gymuned a'r gofalwyr am eu gofal tyner ohono. Diolch i'r Parchedigion Christopher Prew a Megan Williams am eu gwasanaeth ddydd yr angladd dan yr amgylchiadau anodd hyn. Diolch arbennig i Pritchard a Griffiths, Trefnwyr Angladdau yn enwedig Gareth Connick am drefniadau trylwyr a theimladwy. Diolch o waelod calon i bawb.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Geraint