Robert EmlynJONESDymuna Gwyneth, Bethan, Sioned, Eleri a theulu y diweddar Robert Emlyn Jones, Rhandir, Bontnewydd ddatgan diolch cywir am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli gŵr, tad, taid, brawd ac ewythr annwyl iawn. Diolch yn arbennig am y rhoddion er cof tuag at Ymchwil Canser a Meddygfa Waunfawr, i Dr Gwilym Sion Pritchard am ei ofal caredig, i'r Parch Iwan Llewelyn am ei wasanaeth ddydd yr angladd ac i'r ymgymerwyr, Ifan a Nia Hughes am drefniadau boneddigaidd a thrylwyr.
Keep me informed of updates