BerylJONESJONES - BERYL, 19 Chwefror, 2021. Yn dawel yn Ysbyty Cefni, Llangefni ac o Penrhyn, 34 Y Grugan, Groeslon yn 89 mlwydd oed. Priod annwyl a thyner y diweddar Isaac, a mam gariadus a charedig Keith, Linda, Nerys, Bethan, Kevin a Gwenno; mam-yng-nghyfraith ffeind Tricia, Gwyn, Geraint, Glyn, Pam a Huw, nain addfwyn a balch Natalie, Bradley, Louisa, Dewi, Catrin, Gwyn, Gethin, Siân, Gareth, Rhys, Ffion, Awel, Osian, Ellie a Siôn, a hen-nain gariadus Eleanor, Sophia, Megan, Jac, Beca, Nedw, Madi, Hari a Gwion. Angladd brynhawn Mawrth, 2 Mawrth, 2021. Gwasanaeth cyhoeddus ar lan y bedd ym Mynwent Llanbeblig, Caernarfon am 2.00 o'r gloch, gan ddilyn y rheolau pellter perthnasol. Bydd yr hers yn cychwyn o Penrhyn, 34 Y Grugan, Groeslon, am oddeutu 1.15 o'r gloch, gan fynd heibio'r Grand Lodge, Glynllifon, yna Dingle Nook, Dinas Dinlle, ac ymlaen i Bryn Llan, Llandwrog, yna drwy Llanfaglan i Gaernarfon. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Beryl tuag at Gartref Gwynfa Lodge, Bontnewydd a Ward Cemlyn, Ysbyty Cefni. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates