Dilys EleanorJONESYn dawel ar ddydd Mawrth Mai 18fed 2021 yng ngofal cartref Alltymynydd hunodd Dilys, Dol y Grug, Llandysul gynt yn 92 mlwydd oed. Priod ffyddlon a ffrind gorau Ieuan, chwaer annwyl y diweddar Deric a Peter, modryb gariadus ac yn gyfaill i bawb. Cynhelir gwasanaeth angladdol yn unol â'r amgylchiadau presennol. Gwasanaeth angladdol preifat (drwy wahoddiad) yng Nghapel Undodaidd Y Graig, Llandysul dydd Mawrth, Mai 25ain 2021 am 2 o'r gloch ac i ddilyn rhoddir i orffwys ym mynwent Capel Y Fadfa, Bwlchyfadfa. I rhai sydd eisiau talu'r gymwynas olaf, bydd yr orymdaith yn teithio drwy Llandysul am 1.50 y.p. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion er cof, os dymunir, tuag at Alltymynydd 'Activities Fund' trwy law - Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul, SA44 4XB Ffôn 01545 590254
Keep me informed of updates