William HenryJONESYn dawel ar Ddydd Gwener 28ain o Fai 2021 hunodd William Henry Jones o Pellorwel, Saron, Llandysul. Yn wreiddiol o Fferm Y Lan, Cynwyl Elfed ac ynadnabyddus i nifer fel WH Jones, perchennog Modurdy Derwydd, Cynwyl Elfed am dros 40 o flynyddoedd. Roedd yn briod ffyddlon i'r diweddar Hefina, tad cariadus Phillip, Nia, Non a'r diweddar Eleri, tad yng nghyfraith parchus Ian, Shân, Neil a Tomos a thad-cu arbennig iawn i Manon, Gwion, Josh, Rhys, Morgan a Gwenno. Angladd breifat i'r teulu agosaf, yn unol â'r canllawiau presennol. Rhoddion os dymunir tuag at gangen Caerfyrddin o 'Good News For Everyone' (y Gideoniaid DU gynt) trwy law Wyn Williams, Trefnwr Angladdau, Rhydfoyr Uchaf, Felindre, Llandysul SA44 5JE. Rhif ffôn: 01559370412. On Friday 28th May 2021, William Henry Jones of Pellorwel, Saron, Llandysul passed away peacefully. Originally from Lan Farm, Cynwyl Elfed and known to many as WH Jones, owner of Derwydd Garage Cynwyl Elfed for over 40 years. Henry was the beloved husband of the late Hefina; devoted father to Philip, Nia, Non and the late Eleri. Respected father in law to Ian, Shân, Neil and Tomos as well as a wonderful grandfather to Manon, Gwion, Josh, Rhys, Morgan and Gwenno. A private funeral service will be held for close family only, in line with current restrictions. Donations if desired to the Carmarthen branch of 'Good News For Everyone' (formerly The Gideons UK) kindly received by Wyn Williams, Funeral Director, Rhydfoyr Uchaf, Felindre, Llandysul SA44 5JE. Tel: 01559 370 412.
Keep me informed of updates
Add a tribute for William