Margaret IreneJONESYn dawel ar fore ddydd Iau Mehefin 16eg 2022 yn Ysbyty Bronglais hunodd Irene, Penarth, Heol y Bryn, Llanbedr Pont Steffan (Waunlluest, Prengwyn gynt) yn 91 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Dan, mam gariadus Eileen a Linda, mamgu a fen famgu arbennig a gofalgar Jennifer a Heilin, Saran a Daniel. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yng Nghapel Carmel, Prengwyn, Llandysul ar ddydd Llun Mehefin 27ain 2022 am 1 o'r gloch. Dim blodau, cyfraniadau er cof os dymunir tuag at offer i Feddygfa Bro Pedr a Ward Meurig (sieciau yn daladwy i Cenfil Reeves a'i Fab Donation Account) - trwy law - Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul, SA44 4XB. Ffon - 01545 590254
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret