Lilian MabelJONESDymuna Dewi, Alun, Carys, Eira, Rhiannon a'r teulu oll ddiolch am yr holl gardiau, negeseuon a phob arwydd o garedigrwydd â chydymdeimlad a estynwyd iddynt yn eu profedigaeth o golli Mam annwyl, Nain a Hen Nain amhrisiadwy. Rhoddwn ddiolch i'r Parchedig Martin Pritchard am arwain, i Mair, Gwyn a Gareth am ei rhan yn y gwasanaeth ac i Gwyneth a Janet am addurno yr Eglwys. Ar ddiwrnod yr angladd, roedd yr Eglwys ar Amlosgfa yn orlawn gyda y rhai oedd yn gallu dod i ddangos eu parch i Mam. Diolchwn o galon i ofalwyr Cyngor Conwy ac i'r Nyrsus Gymunedol am y gofal tyner a charedig a roddwyd i Mam yn ei chartref yn Llannefydd yn y misoedd diwethaf o'i hoes. Rydym yn teimlo balchder am ffyddlondeb ei ffrindiau a chymdogion lawer a'u cefnogaeth wrth ymweld a Mam. Roedd Mam yn falch iawn o weld pawb, cael sgwrs a rhoi y byd yn ei le. Diolch am y rhoddion hael a gasglwyd at gronfa Ambiwlans Awyr Cymru, £1,079 hyd yn hyn. A hefyd i Deiniol Jones a'r staff o gwmni R W Roberts a'i Fab am y trefniadau gofalus. * * * * * JONES Lilian Mabel Dewi, Alun, Carys, Eira, Rhiannon and all the family wish to express their sincere gratitude for the many cards, kindness and messages of sympathy extended to them in their bereavement at the loss of their dear Mam and a wonderful Nain and Great-Nain. We give thanks to the Reverend Martin Pritchard for his ministration, to Mair, Gwyn and Gareth for their contribution in the service also to Gwyneth and Janet for the arrangements in the church. The Church and Crematorium were overflowing with those able to attend to pay their respects to Mam. Heartfelt thanks is given to the carers of Conwy Council and the Community Nurses for the tender and kind care given to Mam in her home in Llannefydd in the last months of her life. We feel great gratitude to her many loyal friends and neighbours who gave their support by visiting Mam. Mam was very pleased to see everyone, have a chat and put the world to rights. Thank you for the generous donations collected for the Welsh Air Ambulance fund £1,079 so far. And to Deiniol Jones and the staff from R W Roberts and Son for the dignified arrangements.
Keep me informed of updates