Janet MairJONESYn dawel bore Mawrth, 16eg Ionawr 2024 bu farw Janet, Dwylan, Pencader. Priod hoff a ffyddlon Eric, mam annwyl iawn Lowri, Sion Arwel, Gruffydd a'r diweddar Derfel, mam yng-nghyfraith barchus Jason, Rachel a Mair, a mamgu ofalus a chariadus Joseff, Ioan a Martha. Angladd gyhoeddus yng Nghapel Tabernacl Pencader dydd Sadwrn, Ionawr 27ain am 12.00 o'r gloch. Cleddir ym mynwent y plwyf Pencader. Blodau'r teulu'n unig, rhoddion os dymunir tuag at Eglwys Annibynnol Gwyddgrug drwy law'r trefnwr angladdau Tom Lewis, Aneddle, Pencader. SA39 9BX. 01559 384279
Keep me informed of updates