WilliamJONES10fed Medi 2024. Hunodd yn sydyn ond yn dawel yn ei gartref 8 Glan Pwll, Nefyn yn 86 mlwydd oed.
Priod ffyddlon y diweddar Joan Elizabeth Jones, tad caredig Richard, Robin a'r diweddar Griffith a Dafydd, taid arbennig Rebecca, Dylan a Carys, hen-daid caredig Ioan, Cynan, Elgan a Deian, brawd ac ewythr hoffus a ffrind i lawer.
Gwasanaeth preifat i'r teulu yn unig yng Nghapel MC Tudweiliog fore Llun, 30ain Medi am 11 o'r gloch gan ddilyn yn gyhoeddus ar lan y bedd ym Mynwent Tudweiliog am oddeutu 11.30 o'r gloch.
Blodau teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Gronfa Sefydliad COPD trwy law yr ymgymerwr. Ifan Hughes Ymgymerwr Angladdau Ceiri Garage Llanaelhaearn Ffôn: 01758 750238
Keep me informed of updates
Add a tribute for William