Mair HefinaJONES27 Mai, 2025.
Yn sydyn ond eto'n dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac o Bryn Llawen, Bethel Road, Caernarfon yn 80 mlwydd oed.
Mam gariadus a ffrind pennaf Ian, chwaer ofalus a chadarn Margaret a modryb annwyl Arwyn a Nia. Ffrind hwyliog a thriw i lawer, a bydd colled enfawr ar ei hôl.
Angladd fore Llun, 23 Mehefin, 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Glanrhyd, Dinas am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Hermon, Rhosgadfan. Mae croeso i bawb wisgo gwisg liwgar pe dymunir.
Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Hefina i'w rhannu rhwng Apêl Ambiwlans Awyr Cymru ac elusen er budd anifeiliaid o ddewis y teulu.
Ymholiadau i
Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates