RoyJONES13 Gorffennaf, 2025. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Hosbis Dewi Sant, Llandudno ac o Rhosgadfan, yn 61 mlwydd oed. Cymar annwyl Karen a thad arbennig Liam, Trina ac Eli. Mab ffyddlon Rosina a'r diweddar Will 'Moss', a brawd triw Marian a Linda. Taid balch Enfys, Seren, Awel, Elin a Tomos ac ewythr hoffus Kelly, Meirion, Tracy, Siôn, Ffion a'r diweddar Chris. Ffrind ffyddlon i'w deulu a'i ffrindiau oll.
Angladd brynhawn Gwener, 1 Awst, 2025. Gwasaneth cyhoeddus yng Nhapel Seilo, Caernarfon am 1.00 o'r gloch gan ddilyn ar lan y bedd ym mynwent Rhosgadfan am oddeutu 2.00 o'r gloch.
Derbynnir blodau gyda diolch, neu rhoddion yn ddiolchgar er cof am Roy tuag at Gronfa Hosbis Dewi Sant, Llandudno.
Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates