Hugh BrianJONES17 Awst, 2025. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn ei gartref, 11 Cae'r Ysgol, Caernarfon, yn 86 mlwydd oed. Gŵr addfwyn Myfanwy, tad annwyl Jacquie, a llys-dad John Glyn, Richard Alun ac Anna-Marie; tad-yng-nghyfraith Ian, Iona, Tudur a'r diweddar Bridget. Taid balch Morgan, Bella, Tesni, Mared, Alaw, Magi, Moi, Joshua, Ryan, Zack a'r diweddar Jade, a hen daid Caio ac Efan.
Angladd brynhawn Iau, 11 Medi, 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Baladeulyn, Nantlle am hanner dydd, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah, Pen-y-groes.
Blodau gan y teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Brian tuag at Ganolfan Dydd Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd.
Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates