Elen MaironaJONESHunodd yn dawel yng Nghartref Bryn yr Eglwys, Pentrefoelas, dydd Sul, 28ain o Ragfyr 2025. Priod ffyddlon y diweddar Ceiriog Jones, mam a mam yng nghyfraith ofalus Elfrys ac Arwel, Wyn a Karen, Huw a Iona, Rhiannon a Dewi. Nain hynod falch a charedig i'w wyrion a'i gorwyrion.
Gwasanaeth yn Amlosgfa Bae Colwyn, dydd Gwener, 23ain o Ionawr 2026 am 12:30 y.p.
Dim blodau os gwelwch yn dda, ond pe dymunir byddai'r teulu yn hynod ddiolchgar o dderbyn rhoddion, er cof am Rona tuag at elusen clefyd Motor Neurone (sieciau yn daladwy i MND Association) a Hosbis Dewi Sant (sieciau yn daladwy i St David's Hospice Ltd) trwy law Meredith Jones a'i Gwmni, Capel Gorffwys Dolwar, Ffordd Pari, Llanrwst LL26 0DG. Rhif cyswllt 01492 640348
Keep me informed of updates