Enid WynJONES24 Ionawr, 2026. Yn dawel yng Nghartref Plas Gwilym, gynt o 60 Trem y Wyddfa, Pen-y-groes, yn 82 mlwydd oed.
Cymar annwyl y diweddar Michael Riley, chwaer addfwyn Arwel, a'i briod Liz, a modryb gariadus Angharad, Sioned a'u teuluoedd.
Angladd brynhawn Iau, 12 Chwefror, 2026.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Calfaria, Pen-y-groes am 1.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Enid tuag at Gartref Plas Gwilym.
Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates