LAURA ELLEN OWENOWEN - LAURA ELLEN (Laura Glasdy neu Anti Lwl). 13 Mehefin, 2008. Hunodd yn dawel yng Nghartref Nyrsio Plas-y-Bryn, Bontnewydd, gynt o Glasdy a Llys Myfyr, Ffordd yr Orsaf, Llanrug yn 90 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar Robert John, merch annwyl y diweddar Laura Ellen a John Edward Jones. Chwaer hoffus ei diweddar chwiorydd a brodyr, modryb hoff a charedig ei holl nithoedd a neiaint. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Mihangel, Llanrug, ddydd Gwener, 20 Mehefin am 2 o'r gloch ac i ddilyn ym mynwent yr Eglwys. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Laura tuag at Ymchwil Alzheimers. Ymholiadau E. W. Pritchard, 62 Stryd Fawr, Llanberis 01286 870202.
Keep me informed of updates