Betty WynLEWIS(Bet) Dymuna Vivian, Karen, Sian, Nia a theulu y diweddar Betty Wyn Lewis (Bet), "Bron Haul", Llanllyfni, ddiolch o galon i bawb am y caredigrwydd a ddangoswyd tuag atynt, am y cardiau a'r rhoddion haelionus a dderbyniwyd tuag at Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd, yn dilyn eu colled enfawr o golli gwraig, mam a nain gariadus. Diolch i staff ward Tryfan ac Alaw, Ysbyty Gwynedd am eu gofal o Bet, ac i'r Parch. Dewi Morris am wasanaeth urddasol ddiwrnod yr angladd. Diolch i bawb a anfonodd flodau ac i Gyfarwyddwr Angladdau Paragon, Penygroes am eu trefniadau trylwyr.
Keep me informed of updates