Alun (Mabon)LEWISDymuna Lona, Sandra, Dylan a Gwyn, teulu y diweddar Alun Lewis, Gorllwyn 36 Rhydfadog, Deiniolen ddatgan ein gwerthfawrogiad am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atom yn ystod ein profedigaeth drist yn ddiweddar. Carwn ddiolch i'r canlynol am eu gwasanaeth gwerthfawr a theimladwy yn yr eglwys a'r amlosgfa diwrnod yr angladd, i Canon Idris Thomas, Y Parchedig Dewi Tudur Lewis a'r Parchedig Euron Hughes, i'r organyddes Annette Bryn Parri am ei chyfraniad arbennig wrth yr organ. Hefyd carem ddiolch i Aneurin am ei deyrnged haeddianol i'w ewythr ac i Alaw, Anna, Osian, Sion, Erin a Tomos-Alun am eu teyrnged hwythau yn cofio am yr hwyl a'r chwerthin hefo Taid Alun. Diolch i'r ymgymerwyr E.W.Pritchard, Stryd Fawr, Llanberis am eu trefniadau trylwyr ac urddasol iawn. Derbyniwyd rhoddion o £1,600 yn ddiolchgar iawn er cof am Alun ac sydd wedi cael ei rhannu yn gyfartal rhwng Eglwys Crist Llandiorwig Deiniolen a cronfa mwynderau Plas Ogwen Bethesda fel gwerthfawrogiad am y gofal ar caredigrwydd diflino a dderbyniodd Alun yno. Diolch o galon i bawb.
Keep me informed of updates