David John HiggonLLEWELYNYn dawel yn Ysbyty Glangwili ddydd Sul Hydref 22, John, Gwynlais, Maenclochog, gynt o Pendre, Login. Priod annwyl Mary, tad a thad yng nghyfraith tyner Maldwyn a Caroline, Emrys a Liz, Meinir a Wyn, tadcu cariadus Angharad, Gethin, Rhiannon, Sioned, Mari, Nia a Mererid, hen dadcu balch Megan a brawd hoffus. Angladd gyhoeddus yng Nghapel Llandeilo ddydd Sadwrn Hydref 28 am 1 o'r gloch.Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion er cof os dymunir i Ward Padarn, Ysbyty Glangwili trwy law Dennis Jones Trefnwr Angladdau, Maesawelon, Efailwen. SA66 7UX Ffon 01994 419561
Keep me informed of updates