LeslieLLOYDLes Dymuna Pat, Carys, Ian a theulu'r diweddar Leslie Lloyd, Dolwar, Bryngwran ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn ystod eu profedigaeth. Gwerthfawrogwn yn fawr y gofal amhrisiadwy a dderbyniodd Les gan Tim Gofalwyr Ynys Mon a Meddygfa Gwalchmai. Diolch i'r Hybarch Emyr Wyn Rowlands am ei wasanaeth teimladwy, i Gwenda am ei chyfraniad i'r gwasanaeth ac i Iola a Rhian fu'n helpu yn y ty. Gwerthfawrogir y rhoddion hael er cof am Les tuag at Clefyd Parkinson. Diolch arbennig i Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali am eu cefnogaeth a'u trefniadau proflesiynol ar ddydd yr angladd.
Keep me informed of updates