Alun MorganLLOYDYn dawel yng nghwmni ei deulu, ar yr 2il o Fedi, hunodd Alun Morgan Lloyd yn ei gartref ym Mharc Pen Cae, Llandybïe. Gŵr cariadus Gill, tad arbennig Huw a Lowri, tad-cu balch Siôn, Megan a Siwan, brawd Gaynor a thad yng nghyfraith parchus Carol a Ioan. Gwasanaeth cwbl breifat i'r teulu agos yn unig yn Amlosgfa Llanelli ar y 10fed o Fedi gyda gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu bywyd Alun yng Nghapel Gosen, Llandybïe am 12.30 y prynhawn. Dim blodau ond croesewir rhoddion er cof amdano i elusen Marie Curie trwy law Dr Ioan Matthews, 31 Rhodfa Dewi Sant, Caerfyrddin SA31 3DN. Ymholiadau pellach i D.Wynne Evans a'i feibion, 101, heol Penygroes, Rhydaman 01269/850405.
Keep me informed of updates