RobertMASKELL(Cwmgest) Yn dawel ar Chwefror 11, 2015 yn Ysbyty Glangwili, wedi brwydr a wynebodd yn ddewr, Robert, Cwmgest, Talog, Caerfyrddin; priod annwyl Eirian, tad cariadus Huw a Wyn, tadcu hoffus Osian a Hedd, tad-yng-nghyfraith Catrin a brawd annwyl iawn. Angladd dydd Iau Chwefror 19, claddedigaeth ym mynwent Eglwys Sant Teilo, Penybont i'r teulu yn unig, Gwasanaeth Coffa cyhoeddus yn Eglwys Crist, Heol Awst, Caerfyrddin am 12 o'r gloch. Dim blodau, rhoddion, os dymunir, i Cymdeithas Cyfeillion Ysbyty Glangwili (Glangwili Hospital League of Friends) trwy law Glanmor Davies Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PG. Ffon 01267 241626
Keep me informed of updates