Catherine VaughanMORGANGynt o Ty'n y Felin, Llangwm a'r Bala. Dymuna'r teulu ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth, hefyd am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof tuag at Ty Gobaith ac Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch arbennig i'r Parchedigion Carwyn Siddal a Ddr Rhodri Glyn am eu gwasanaeth. Diolch i'r organyddes Gwerfyl Williams ac i Nia Davies a'r merched am baratoi'r lluniaeth, ac i bawb a fu'n cynorthwyo. Diolch yn arbennig i Deiniol a chwmni R.W.Roberts a'i Fab am y trefniadau trylwyr a gofalus.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Catherine