MeganMORRISHoffai Carol a Huw, Wynne ac Ann ddiolch i bawb, yn deulu a ffrindiau, am eu negeseuon caredig o gydymdeimlad, eu cefnogaeth a'u rhoddion hael i Hosbis Ty Bryngwyn, ar achlysur colli eu mam yn ddiweddar. Diolch yn arbennig i staff Ty Mair, Felinfoel, a fu mor ofalus o Megan yn ystod y blynyddoedd diwetha. Roedd y gwasanaeth yn Eglwys Dafen yn deyrnged arbennig iddi a diolch i'r Parchedig Ganon Huw Mosford am ei eiriau didwyll ac i'r Parchedig Aled Williams a'r Parchedig Eldon Phillips am eu presenoldeb. Yn ogystal, diolch hefyd i gwmni Arthur Cambrey, Trefnyddion Angladdau, am drefnu popeth gyda'u hurddas arferol.
Keep me informed of updates