Gwilym LloydOWENOWEN - GWILYM LLOYD, Awst 1af, 2017. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor o Cae Mur, Caernarfon, Gwynedd, gynt o Club House, Llan Ffestiniog, yn 90 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar Myfanwy, tad a thad yng nghyfraith caredig Jennifer a Roy, Erica a Merfyn, taid balch Nia, Gareth, Chris ac Ian a'r diweddar Steve ac Ieuan, hen daid hwyliog Adrian, Cian, Rowen, Finn a Sienna. Bydd colled fawr i'w holl deulu, ffrindiau oes a chyfeillion newydd. Angladd cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor, ddydd Mercher, Awst 9fed, 2017 am 3.00 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Ambiwlans Awyr Cymru, trwy law yr Ymgymerwr Arwyn Hughes, Bryn Hyfryd, Dulas, Ynys M?n, LL70 9PJ a'r Hen Fecws, Marian-Glas, Ynys M?n, 01248 410353.
Keep me informed of updates