MeganOWENOWEN MEGAN. Dymuna William Glyn (Cigydd, Caernarfon) a theulu'r ddiweddar Megan Owen, gynt o Gwelfor, Y Groeslon, ddatgan eu diolch diffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a estynwyd atynt yn eu profedigaeth o golli mam, nain a hen-nain oedd yn annwyl iawn ganddynt boed hynny drwy ymweliadau, galwadau ffon a nifer fawr o gardiau. Diolch i Swyddogion Capel Bryn Rodyn am gael defnyddio'r Capel, i'r Barch Cath Williams, Caernarfon, am ei gwasanaeth teimladwy, i Mrs. Mary Davies, yr organyddes, ac i ffrind mam, Ceinwen, am ei theyrnged a'i hatgofion hyfryd. Diolch i Westy Meifod, Bontnewydd, am baratoi lluniaeth ardderchog wedi'r angladd. Diolch hefyd am y rhoddion hael o £700 a dderbynniwyd er cof at Gronfa Ymchwil Dimentia yn lleol ac i'r Ymgymerwr Huw John Jones am ei drefniadau trylwyr a diffwdan. Diolch yn fawr iawn i bawb.
Keep me informed of updates