MargaretOWENOWEN - MARGARET Gorffennaf 14eg, 2008. Yn dawel yn Ysbyty Bryn Beryl yng nghwmni ei theulu, o Neigwl, Llanbedrog (Talsarn gynt) yn 76 mlwydd oed. Priod hoff y diweddar Hywel, mam annwyl Elen a William, mam yng nghyfraith Colin a Glesni, nain arbennig i Rhodri, Mared, Harri, Non a Dei a chwaer agos Elisabeth. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Neigwl, Gorffennaf 18fed am 1.00 o'r gloch ac i ddilyn yn breifat ym Mynwent Llandegwining. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Gyfeillion Bryn Beryl trwy law'r ymgymerwr, R.O. Jones, Talafon, Tudweiliog. Ffon 01758 770456.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret