Mair CatherineOWENDymuna Avril a theulu'r diweddar Mair Owen, 12 Maes yr Hafod, Porthaethwy, ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth lem, o golli Mair, priod ffyddlon y diweddar Bert, a mam, nain, hen nain, a modryb annwyl, ac am pob cymwynas a gafwyd ar hyd y blynyddoedd gan ei chymdogion a'i ffrindia ?ll. Diolch am y llythyrau, cardiau, ymweliadau a'r galwadau ff?n, ac am y rhoddion hael a dderbyniwyd tuag at Capel Tabernacl, Porthaethwy, ac Uned Cardiaidd Ysbyty Glan Clwyd, casglwyd cyfanswm o ?600. Diolch i'r Parchedig Feddyg Huw John Huws am ei wasanaeth arbennig a theimladwy yn y capel a'r amlosgfa, ac ar lan y b?dd. Diolch hefyd i Richard a Dewi (HO Davies) am eu trefniadau trylwyr a charedig, ac i Westy'r Victoria am y lluniaeth. Diolch yn fawr I bawb.
Keep me informed of updates