EiraOWENDymuna Gwenda, Wyn a theulu'r diweddar Eira Owen, Penycefn, Amlwch, ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd a gweithred o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli Mam a Nain annwyl a charedig, a ffrind i lawer. Diolch i bawb a ddaeth i'r angladd o bell ac agos. Diolch i'r Parchedig Emlyn Richards am ei wasanaeth teimladwy, hefyd i'r organyddes, Mrs Eirwen Thomas ar ddydd yr angladd yn Capel Bethesda, Amlwch. Diolch i Iwan Jones am ddarllen y deyrnged ar ran y teulu yn ystod y gwasanaeth. Diolch i bawb am y rhoddion hael a dderbyniwyd i Gartref Brwynog yn Amlwch lle y cafodd ofal arbennig iawn, ac i Gymdeithas y Strôc. Yn olaf, diolch i'r ymgymerwyr, John Hughes a'i fab, Britannia, Amlwch am y trefniadau parchus a thrylwyr. Diolch o galon i bawb.
Keep me informed of updates